{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Beware of DWP related scams / Byddwch yn ofalus o sgamiau sy'n gysylltiedig a’r Adran Gwaith a Phensiynau.


We are continuing to receive reports of individuals across North Wales receiving text messages and e-mails containing suspicious links purporting to be from the Department for Work and Pensions (DWP).  Some of the reports have been as follows :-

 

⚠️ Text message claiming to be from DWP. The message outlined support available with heating grants and urged the recipient to act quickly as the application window would be closing soon. A link contained within the message led to a webpage requesting bank details for a £1 payment to be taken to verify the bank account for grant to be paid into.

 

⚠️ Text message purporting to be the DWP stating that the recipient could claim the winter fuel allowance but had to do so within 24 hours. There link within the message led to a page asking for bank details.

 

⚠️ Text message claiming to be from DWP saying that the recipient was entitled to claim £200- £300. The link within the message led to a webpage that asked for personal details and then card details (allegedly for a £0.01 test charge). The recipient contacted DWP who confirmed that this was a scam.

 

⚠️ E-mail claiming to be from DWP regarding winter fuel payments. The link within the e-mail led to a webpage that appeared to be a government page which asked for card details to be entered. The recipient contacted DWP who confirmed that this was a scam.

 

Always be careful with unverified links in unexpected messages. Never share personal or financial details unless you are certain that you are engaging with trusted official sources.

 

Please take a few minutes to make sure that your family, friends and neighbours are aware that this is a common scam so that they aren’t caught out.

 

#NWPCyberSafe

 

Rydym yn parhau i dderbyn adroddiadau am unigolion ledled Gogledd Cymru yn derbyn negeseuon testun ac e-byst sy'n cynnwys dolenni amheus sy'n honni eu bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Dyma rai o'r adroddiadau:-

 

⚠️ Neges destun yn honni ei fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Roedd y neges yn amlinellu'r gefnogaeth sydd ar gael gyda grantiau gwresogi ac yn annog y derbynnydd i weithredu'n gyflym gan y byddai'r ffenestr ymgeisio yn cau'n fuan. Arweiniodd dolen yn y neges at dudalen we yn gofyn am fanylion banc ar gyfer taliad o £1 i'w gymryd i wirio'r cyfrif banc er mwyn i’r grant gael ei dalu i’r cyfrif.

 

⚠️ Neges destun yn honni ei bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi y gallai'r derbynnydd hawlio'r lwfans tanwydd gaeaf ond bod yn rhaid iddo wneud hynny o fewn 24 awr. Arweiniodd y ddolen yn y neges at dudalen a oedd yn gofyn am fanylion banc.

 

⚠️ Neges destun yn honni ei bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud fod gan y derbynnydd hawl i hawlio £200-£300. Arweiniodd y ddolen yn y neges at dudalen we a ofynnodd am fanylion personol ac yna manylion cerdyn (am dâl prawf o £0.01 yn ôl yr honiad). Cysylltodd y derbynnydd â'r Adran Gwaith a Phensiynau a gadarnhaodd fod y neges yn sgam.

 

⚠️ E-bost yn honni i fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch taliadau tanwydd gaeaf. Roedd y ddolen yn yr e-bost yn arwain at dudalen we a oedd yn ymddangos fel tudalen y llywodraeth ac yn gofyn am fanylion cerdyn banc. Cysylltodd y derbynnydd â'r Adran Gwaith a Phensiynau a gadarnhaodd mai sgam oedd y neges.

 

Byddwch yn ofalus gyda dolenni heb eu gwirio mewn negeseuon annisgwyl. Peidiwch byth â rhannu manylion personol nag ariannol oni bai eich bod yn siŵr eich bod yn ymgysylltu â ffynonellau swyddogol a dibynadwy.

 

Cymerwch ychydig funudau i wneud yn siŵr bod eich teulu, ffrindiau a chymdogion yn ymwybodol fod hyn yn sgam gyffredin fel nad ydyn nhw'n cael eu dal allan.

 

#SeiberDdiogelHGC


Reply to this message

Message Sent By
Dewi Owen
(North Wales Police, Cyber Crime Officer, North Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials