|
North Wales Police Economic Crime Unit is warning the public about online advertisements offering "free" luxury jewellery, where customers are asked to pay only for postage or processing fees (typically £15 to £30+). These adverts are commonly seen on Facebook, Instagram, TikTok, and online marketplaces and often claim a business is closing down, owners are retiring or giving away stock as part of a special promotion. 🔵 How the Scam Works Fraudsters attract buyers with offers of jewellery worth hundreds of pounds for £0, charging only a delivery fee. 🔵 In reality: • The postage fee is often heavily inflated and contains the seller's profit. • The jewellery received is often low-quality alloy, plastic, or brass costume jewellery worth very little, often shipped directly from overseas manufacturers. • Some websites attempt to sign customers up to recurring subscriptions or hidden charges during checkout. 🔵 Warning Signs 🚩 "Just pay postage" offers for expensive jewellery. Legitimate luxury jewellers do not give away genuine stock while charging £20+ for basic delivery. 🚩 Emotional stories about closing-down sales, retirement, or personal hardship. 🚩 Countdown timers and "limited stock" warnings designed to create urgency. 🚩 No verifiable company details, business address, or contact information. 🚩 AI-generated images and overly polished adverts that appear too good to be true. 🔵 Protect Yourself ✅ Research the seller before making a purchase. ✅ Check independent reviews from multiple sources. ✅ Read the checkout page carefully for hidden fees or subscriptions. ✅ Pay by credit card where possible for added consumer protection. 🔵 If You've Been Affected • Contact your bank or card provider immediately. You may be able to request a Chargeback or claim under Section 75 of the Consumer Credit Act (if the individual transaction exceeds £100 on a credit card). • Check your account for recurring payments or unauthorised charges. • Report the fraud via Report Fraud (the UK's national fraud and cybercrime reporting centre): https://www.reportfraud.police.uk/ or call 0300 123 2040. • Report the advert or fraudulent ad listings directly to the host platform (Facebook, Instagram, TikTok) to help take the page down. ❗If an offer sounds too good to be true, it probably is! #NWPCyberSafe Mae Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd am hysbysebion ar-lein sy'n cynnig gemwaith moethus "am ddim", lle gofynnir i gwsmeriaid dalu costau postio neu brosesu yn unig (fel arfer rhwng £15 a £30 neu fwy). Mae'r hysbysebion yma’n cael eu gweld yn aml ar Facebook, Instagram, TikTok, a marchnadoedd ar-lein, ac maent yn aml yn honni fod busnes yn cau, fod y perchnogion yn ymddeol, neu fod stoc yn cael ei rhoi i ffwrdd fel rhan o hyrwyddiad arbennig. 🔵 Sut Mae'r Sgam yn Gweithio Mae twyllwyr yn denu prynwyr gyda chynigion o emwaith sy'n cael ei disgrifio’n werthfawr am £0, gyda'r unig gost yn ymddangos fel tâl dosbarthu. 🔵 Mewn gwirionedd: • Mae'r gost postio yn aml yn uchel ac yn cynnwys elw'r gwerthwr. • Yn aml, mae'r gemwaith a dderbynnir yn emwaith rhad wedi'i wneud o aloi, plastig neu bres, sydd werth ychydig iawn, ac sy'n cael ei anfon yn uniongyrchol gan gwmnïau o dramor. • Mae rhai gwefannau yn ceisio cofrestru cwsmeriaid ar gyfer tanysgrifiadau cylchol neu daliadau cudd wrth gwblhau'r pryniant. 🔵 Arwyddion Rhybudd 🚩 Cynigion "Talu am y postio yn unig" ar gyfer gemwaith drud. Nid yw gwerthwyr a chwmniau dilys yn rhoi stoc gwerthfawr i ffwrdd tra'n codi £20 neu fwy am gostau postio. 🚩 Straeon emosiynol am gwmnïau’n cau lawr neu ymddeoliad. 🚩 Clociau cyfrif i lawr a rhybuddion am "stoc gyfyngedig" wedi'u cynllunio i greu teimlad o frys. 🚩 Diffyg manylion cwmni y gellir eu gwirio, cyfeiriad busnes neu fanylion cyswllt. 🚩 Delweddau a gynhyrchir gan AI a hysbysebion sy'n edrych yn rhy berffaith neu'n rhy dda i fod yn wir. 🔵 Amddiffynnwch Eich Hun ✅ Ymchwiliwch i'r gwerthwr cyn gwneud pryniant. ✅ Gwiriwch adolygiadau annibynnol o sawl ffynhonnell. ✅ Darllenwch y dudalen dalu'n ofalus am unrhyw daliadau cudd neu danysgrifiadau ychwanegol. ✅ Talwch â cherdyn credyd lle bo modd. 🔵 Os Ydych Wedi Cael Eich Effeithio • Cysylltwch â'ch banc neu ddarparwr cerdyn ar unwaith. Efallai y gallwch wneud cais am ‘Chargeback’ neu hawlio arian yn ôl o dan Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr (os yw gwerth y taliad unigol yn fwy na £100 ar gerdyn credyd). • Gwiriwch eich cyfrif am daliadau cylchol neu daliadau anawdurdodedig eraill. • Rhowch wybod am y twyll drwy Report Fraud (canolfan genedlaethol y DU ar gyfer adrodd am dwyll a throseddau seiber): https://www.reportfraud.police.uk/ neu ffoniwch 0300 123 2040. • Rhowch wybod am yr hysbyseb neu'r rhestriad twyllodrus yn uniongyrchol i'r llwyfan sy'n ei gynnal (Facebook, Instagram neu TikTok) er mwyn helpu i'w dynnu i lawr. ❗ Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol iawn ei fod! #SeiberDdiogelHGC |